"Rydyn ni yn fudiad unigryw o aelodau sydd wedi ffynnu am dros 300 mlynedd. Heb unrhyw gysylltiadau gwleidyddol na chrefyddol, mae gyda ni aelodau o bob oed, hil, crefydd, diwylliant a chefndir. Byddwn ni yn ymgynnull yn ein Cyfrinfeydd unigol ledled y wlad ble mae gyda ni draddodiadau seremonïol sy’n ein hannog i fod yn fwy goddefgar a pharchus ac i fod yn weithgar wrth gyflawni ein cyfrifoldebau dinesig ac elusennol. Fe fyddwn ni hefyd yn neilltuo amser i fwyta, yfed a dod at ein gilydd gan ffurfio cyfeillgarwch gydol oes.”
Gobeithio y gwnewch fwynhau darllen am Saeryddiaeth yn gyffredinol a Thalaith Gorllewin Cymru yn benodol. Rwy’n mawr obeithio hefyd y bydd y wybodaeth a gewch ar y wefan yn ysgogi diddordeb pellach yn ein sefydliad ac mae gwahoddiad cynnes i